Oen Duw trag'wyddol
Fab y Tad,
'R hwn dd'ost o'r nef i golli'th wa'd
Dros bechaduriaid gwael eu rhyw,
Oedd wedi myn'd dan felldith Duw.
Wyt yn tosturio wrth bob rhai,
Sy'n d'od yn flin dan deimlo eu bai;
Dan bwys f'aneirif
feiau mawr,
'R wyn'n llefain Dduw, tosturia'n awr.
Cymhwysiad llawn o'th waed,
trwy ffydd,
A wnaiff fy enaid caeth yn rhydd;
Golwg ar dy glwyfau trist,
A ladd fy mhechod, anwyl Grist.
Mae nghalon gâs i yn llawn o bla,
Ac ynddi yn aros 'does dim da;
Ond rhîn dy waed, O anwyl Oen!
All fy nglanhau a llaesu mhoen.
Mewn rhyfel blin 'rwyf nos a dydd,
A'm henaid swrth mewn dalfa sydd,
Dan law 'ngelynion lawer pryd,
Heb ganfod help
o du'n y byd.
Mae'r nefoedd fry yn bres uwch ben,
Mae'n fynych rhyngof
a'm Duw len;
A'm holl elynion yn ddiludd,
Yn gwaeddi, dewch, ni gawn y dydd.
Ond O! uffernol leisiau câs,
Pa bryd y tewch? pa le mae gras?
Pa le mae'r Iesu, yr hwn a fu
Yn meddwi gleddyf â'ch gaed chwi?
O anwyl Iesu, brysia, bydd
Yn awr fel iwrch, neu lwdn hydd;
O tyr'd ar frys, a chluda lawr
Fy holl elynion, fach a mawr.
Golwg ar :: A golwg ar ladd fy mhechod, anwyl Grist :: dor fy mehchod oll i lawr
Tonau [MH 8888]:
gwelir: |
The Lamb of God, the eternal
Son of the Father,
Who camest from heaven to shed thy blood
For sinners of a base kind,
Who had gone under the curse of God.
Thou art showing mercy to everyone,
Who becomes weary of feeling their fault;
Under the weight of my innumerable
great faults,
I am crying out, "God, have mercy now."
The full application of thy blood,
through faith,
Shall make my captive soul free;
A look upon thy sad wounds,
Shall kill my sin, dear Christ.
My detestable heart is full of plague,
And in it stays no good thing;
But the merit of thy blood, O dear Lamb,
Can cleanse me and relieve my pain.
In war I am weary night and day,
And my soul is sullen in custody,
Under the hand of my enemies many a time,
Without finding any help
on my side in the world.
Heaven above is as brass overhead,
Often there is a curtain
between me and God;
And all my enemies are tirelessly,
Shouting, come, we shall gain the day.
But O, detestable hellish voices
When will ye be silent? where is grace?
Where is Jesus, he who was
Making a sword drunk with your blood?
O dear Jesus, hurry, be
Now like a roebuck, or a young stag;
O come quickly, and bring down
All my enemies, small and great.
A look upon :: And a look upon kill my sin, dear Christ :: cut all my sin down tr. 2021 Richard B Gillion |
|